https://busnes.senedd.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=460&RPID=1531978594&cp=yes

https://business.senedd.wales/mgConsultationDisplay.aspx?id=460&RPID=1531978594&cp=yes

 

Credwn fod gennym berthynas dda gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac rydym  yn gweithio gyda’n gilydd i nodi safleoedd preswyl a thramwy cynaliadwy yn ogystal â thrafod anghenion llety.

 

Mae’r Awdurdod Lleol yn wynebu nifer o heriau wrth ddarparu safleoedd preswyl a thramwy, sy’n ei gwneud hi’n anodd rheoli disgwyliadau pobl sy’n dymuno defnyddio safleoedd preswyl a thramwy a’r gymuned gyfan.

 

Rydym yn cwblhau Asesiadau yn unol â’r gofyniad ond mae’r amserlen o ran sicrhau cymeradwyaeth drwy’r broses wleidyddol yn gallu’i gwneud hi’n anodd ymateb i ofynion LlC.

 

Ydi, rydym yn credu bod y fframwaith presennol yn cynnig digon o opsiynau llety i gwrdd ag anghenion gwahanol grwpiau. Unwaith eto, mae’r heriau a wynebir gan Awdurdodau Lleol yn gallu’i gwneud hi’n anodd darparu safleoedd sy’n cwrdd â gofynion cymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a’r gymuned gyfan.

 

Fel y nodwyd uchod mae Awdurdodau Lleol yn wynebu nifer o heriau, yn cynnwys prinder adnoddau i ddelio gyda’r gwaith paratoadol, delio gyda gwersylloedd, cynnal a gweithredu Asesiadau a rheoli disgwyliadau gwahanol gynulleidfaoedd.

 

Bydd yn Bil yn trin gwersylloedd diawdurdod fel achos o dresmasu ac mae’n bosib y caiff cerbydau eu cymryd a’u cadw o ganlyniad.  Fe all hyn wneud unigolion / teuluoedd yn ddigartref a bydd angen cymorth arnynt gan yr Awdurdod Lleol. Credwn mai’r peth gorau fyddai cael gwasanaethau i gydweithio  er mwyn symud gwersylloedd i leoliadau addas gyda gwasanaethau / darpariaethau ar y safle.

 

 

 Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 20 Mai 2022.